Ar gyrion y ddinas

En dan vraagt er iemand of zij een paar gedichten van je  mag vertalen. In het Welsh!
Natuurlijk zei ik JA! Het ziet er prachtig uit. En zo klinkt het ook. 
Oever van de Stad in het Welsh, door Margriet Boleij en Mary Burdett-Jones:


Ar gyrion y ddinas


Safaf mewn glaw sy’n pigo tyllau bychain
ger y cylchglawdd, teyrn ffôl
rhadlon priddlyd
a aeth i gysgu fel plentyn wylofus
ar wely pedwar postyn grudiog llwyd
mewn polder llawn pyllau a phwdel.

Nid wyf yn wynt, nac yn glawdd, nac yn ddŵr.
Rwyf yn draed ac yn ddwylo, yn glustiau ac yn llygaid
i weld y metro, fflat a minaret
a osodwyd fel brodyr ar y cyrion.
Teimlaf y gwynt sy’n sglentio ar hyd Schalkwijk (1),
lle y mae pobl yn codi’u trwynau arno

ond man lle caf hyn – hyn i gyd – 

 lle mae Arglwydd y Gweirgloddiau yn ymgysegru
 i’w fuchod, eu pennau i lawr fel myfi:
yn fy ngwneud fy hun yn fach o gywilydd
am beidio a^ bod yn fuwch lle mae cymaint o wartheg,
peidio â bod yn laswellt lle mae’r gwyrddni’n swmpus,
peidio â bod ag adenydd lle mae popeth yn aderyn.

Mae creyr uchel ei ysgwyddau
yn chwarae Bavo (2) ar hyd ffos Spaarne (3)
Mae’n tasgu aur i’r sawl a fyn glywed
sut mae glaw yn dawel bigo tyllau bychain
yn Schalkwijk, lle y mae pobl yn codi eu trwynau arno,
ac mae fy nghalon wedi mynd i fyw yn fy nghartref.

1. Bwrdeistref fwyaf Haarlem.
2. Eglwys gadeiriol neo-romanésg Bavo yn ninas Haarlem.
3. Cysylltir y ffosydd sy’n amgylchynu Haarlem ag afon Spaarne.

 
Share by: